YSGOL GYMRAEG GWYNLLYW
  • Cartref: Home
  • Swyddi : Vacancies
  • Llogi 3G Hire
  • Cynradd:Primary
    • Cwricwlwm:Curriculum
    • Adnoddau i Deuluoedd: Family Resources
  • Y Bont : LRB
  • Secondary: Uwchradd
    • Cwricwlwm:Curriculum
    • Gwefan CBAC : WJEC Website
  • Y Chweched Dosbarth: The Sixth Form
    • Prosbectws : Prospectus
  • Ysgol Gyfan: Whole School
    • Arweinyddiaeth:Leadership
    • Calendr Ysgol : School Calendar
    • Gwisg Ysgol: School Uniform
    • Polisiau : Policies
    • Pam dewis addysg Gymraeg? : Why Welsh medium education?
    • Pontio Blwyddyn 6: Year 6 Transition
    • School Menus : Bwydlen Ysgol
    • Presenoldeb : Attendance
    • Parent Pay
    • Llyfrgell
    • Llyfrgi Llawen: Cofnod Darllen: Reading Record App - Bookworm Buddies
  • Porth Dysgwyr
  • Porth Staff
  • Prosbectws : Prospectus

Croeso gan y Pennaeth
Headteacher's Welcome

Picture
​Ar ran y staff, y disgyblion a'r llywodraethwyr, mae'n bleser mawr gennyf eich croesawu i wefan Ysgol Gymraeg Gwynllyw.
 Ein nod yw cynnig y dechrau gorau posib mewn bywyd i'n disgyblion. Credwn fod ein disgyblion yn ffynnu mewn cymuned gydag ofal bugeiliol rhagorol a mynediad i gwricwlwm cyfoethog sydd wedi'i seilio ar addysgu a dysgu o ansawdd uchel.
 Mae ein arwyddair "Un tîm, un teulu" yn ein helpu i hyrwyddo gwerthoedd ein hysgol: Cymry, Cyflawni, Cyfranogi, Cwrteisi a Cynaliadwy.
 P'un a yw disgyblion yn ymuno â ni yn dosbarth y meithrin/derbyn neu ym Mlwyddyn 7, ein nod yw eu grymuso i fod yn falch o'u iaith, eu diwylliant a'u treftadaeth Gymreig, ac i ddatblygu eu hyder, ger mwyn eu galluogi i'n gadael ni gyda'r medrau, y gwydnwch a'r cymwysterau sydd eu hangen i lwyddo mewn byd sy'n newid yn barhaus.
 Mae ein gwefan yn darparu gwybodaeth hanfodol ynghylch arferion a pholisïau'r ysgol ynghyd â diweddariadau am fywyd yr ysgol. Os ydych chi'n ystyried anfon eich plentyn i Ysgol Gymraeg Gwynllyw ac am drefnu ymweliad, e-bostiwch [email protected].
 
On behalf of the staff, pupils and governors, it gives me great pleasure to welcome you to the Ysgol Gymraeg Gwynllyw website.
 Our aim is to offer pupils the very best start in life. We believe that our pupils thrive when they have excellent pastoral care and access to a rich curriculum underpinned by high quality teaching and learning. Our one team, one family motto, helps us to promote our school values of Cymry, Cyflawni, Cyfranogi, Cwrteisi and Cynaliadwy.
 Whether pupils join us in nursery/reception or Year 7, our goal is to empower them to be proud of their Welsh language, culture and heritage and to develop their confidence, enabling them to leave us with the skills, resilience, and qualifications needed to succeed in an ever-changing world.
 Our website provides essential information regarding school routines and policies as well as updates about school life. If you are considering sending your child to Ysgol Gymraeg Gwynllyw and would like to arrange a visit, please email [email protected]
 
Picture
Gweledigaeth Ysgol Gymraeg Gwynllyw yw bod yn ysgol gymunedol gynhwysol sydd yn magu dysgwyr uchelgeisiol wrth anelu at ragoriaeth. Parch a gofal yw sail holl waith ein cymuned. Rydyn ni’n credu bod pob dysgwr yn gallu cyrraedd eu llawn botensial ac yn gallu llwyddo.
The vision of Ysgol Gymraeg Gwynllyw is to be an inclusive community school which nurtures ambitious learners, aiming for excellence. Respect and care are the foundations of our community. We believe that every learner can reach their full potential and succeed.



Sefydlwyd yr ysgol ym 1988 fel yr ysgol cyfrwng Cymraeg gyntaf yn hen ardal Gwent. Am ei thair blynedd gyntaf, bu Ysgol Gyfun Gwynllyw  yn hen dŷ Ysgol Fabanod Abercarn ond cyn hir aeth yn rhy fawr i'r adeilad. Fel un o'r ysgolion oedd yn tyfu cyflymaf yng Nghymru, roedd angen adeilad mwy ac felly ail-leolwyd yr ysgol sydd bellach wedi'i lleoli yn Nhrefddyn, Pont-y-pŵl.  Addysgir disgyblion yr ysgol yn gyfan gwbl yn Gymraeg a dônt o ystod o ysgolion cyfrwng Cymraeg Torfaen, Blaenau Gwent a Sir Fynwy megis Ysgol Gymraeg Cwmbrân, Ysgol Panteg, Ysgol Bryn Onnen, Ysgol Gymraeg Bro Helyg ac Ysgol Gymraeg y Fenni. Y nod yw trochi disgyblion yn y Gymraeg a’u galluogi i gael eu haddysgu’n gyfan gwbl ynddi fel eu hiaith frodorol. Gyda thwf addysg Gymraeg yn lleol, adeiladwyd cyfnod gynradd yr ysgol rhwng 2019 a 2022 ac ers Medi 2022, mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn ysgol 3 i 19 oed, yr ysgol bob oed cyntaf yn Ne Ddwyrain Cymru.

The school was established in 1988 as the first Welsh-medium school in the old Gwent area. For its first three years, Ysgol Gyfun Gwynllyw was in the old house of Ysgol Fabanod Abercarn but it soon became too big for the building. As one of the fastest growing schools in Wales, a larger building was needed and so the school was relocated and is now located in Trevethin, Pontypool. 
Picture
Picture
Picture
Picture
Addysgir disgyblion yr ysgol yn gyfan gwbl yn Gymraeg a dônt o ystod o ysgolion cyfrwng Cymraeg Torfaen, Blaenau Gwent a Sir Fynwy megis Ysgol Gymraeg Cwmbrân, Ysgol Panteg, Ysgol Bryn Onnen, Ysgol Gymraeg Bro Helyg ac Ysgol Gymraeg y Fenni. Y nod yw trochi disgyblion yn y Gymraeg a’u galluogi i gael eu haddysgu’n gyfan gwbl ynddi fel eu hiaith frodorol. Gyda thwf addysg Gymraeg yn lleol, adeiladwyd cyfnod gynradd yr ysgol rhwng 2019 a 2022 ac ers Medi 2022, mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn ysgol 3 i 19 oed, yr ysgol bob oed cyntaf yn Ne Ddwyrain Cymru.
​The school's pupils are taught entirely in Welsh and come from a range of Welsh medium schools in Torfaen, Blaenau Gwent and Monmouthshire such as Ysgol Gymraeg Cwmbran, Ysgol Panteg, Ysgol Bryn Onnen, Ysgol Gymraeg Bro Helyg and Ysgol Gymraeg y Fenni. The aim is to immerse pupils in the Welsh language and enable them to be taught entirely in Welsh as their native language. With the growth of Welsh education locally, the primary phase of the school was built between 2019 and 2022 and since September 2022, Ysgol Gymraeg Gwynllyw is a 3 to 19 year old school, the first all age school in South East Wales.

Arweinyddiaeth : Leadership​

Gwisg Ysgol : School Uniform

Polisiau : Policies

ADY & Cynhwysiant : ALN & Inclusion

Pontio Blwyddyn 6 : Year 6 Transition

Pam ddewis addysg Gymraeg?
Why choose Welsh language education?

Bwydlen Ysgol : School Menus

Proudly powered by Weebly
  • Cartref: Home
  • Swyddi : Vacancies
  • Llogi 3G Hire
  • Cynradd:Primary
    • Cwricwlwm:Curriculum
    • Adnoddau i Deuluoedd: Family Resources
  • Y Bont : LRB
  • Secondary: Uwchradd
    • Cwricwlwm:Curriculum
    • Gwefan CBAC : WJEC Website
  • Y Chweched Dosbarth: The Sixth Form
    • Prosbectws : Prospectus
  • Ysgol Gyfan: Whole School
    • Arweinyddiaeth:Leadership
    • Calendr Ysgol : School Calendar
    • Gwisg Ysgol: School Uniform
    • Polisiau : Policies
    • Pam dewis addysg Gymraeg? : Why Welsh medium education?
    • Pontio Blwyddyn 6: Year 6 Transition
    • School Menus : Bwydlen Ysgol
    • Presenoldeb : Attendance
    • Parent Pay
    • Llyfrgell
    • Llyfrgi Llawen: Cofnod Darllen: Reading Record App - Bookworm Buddies
  • Porth Dysgwyr
  • Porth Staff
  • Prosbectws : Prospectus