Diogelu ein dyfodol
Safeguarding our futures
Mae'r we'n adnodd anhygoel gyda chymaint o bethau da wrth law , ond, gall y we fod yn beryglus os nad ydym yn ofalus. Sut allen ni diogelu ein hunain ar lein a sicrhau nad ydym yn peryglu ein hunain? Mae llawer o gymorth a chyngor ar gael. Nod y dudalen yma felly yw rhannu adnoddau gall dysgwyr, staff yr ysgol a theuluoedd defnyddio i ddiogelu eu hunain ar lein.
The internet is an incredible resource with so many good things at the tips of our fingers, but, the internet can be a dangerous place if we aren't careful. How can we safeguard ourselves online and ensure that we are not endagering ourselves online? There is a huge amount of advise and support available. The aim of this page is to share resources that learners, school staff and families use do safeguard themselves online.
The internet is an incredible resource with so many good things at the tips of our fingers, but, the internet can be a dangerous place if we aren't careful. How can we safeguard ourselves online and ensure that we are not endagering ourselves online? There is a huge amount of advise and support available. The aim of this page is to share resources that learners, school staff and families use do safeguard themselves online.
Mae gan Hwb tudalen gyda llwyth o adnoddau a chefnogaeth. Gwasgwch ar y lluniau i gyrraedd y wefan.
Hwb has it's own page with lots of resources and support. Click on the pictures to access the website.
Hwb has it's own page with lots of resources and support. Click on the pictures to access the website.
Canllawiau CEOP Guidelines
Mae'r cyngor canlynol wedi cael ei lunio gan CEOP Education er mwyn helpu rhieni a gofalwyr i siarad â'u plentyn am fater sensitif.
Dyw dechrau sgwrs gyda'ch plentyn am fater sensitif neu rywbeth nad ydych chi’n siarad amdano fel arfer ddim yn hawdd bob amser, yn enwedig os yw hyn yn golygu y byddwch chi'n siarad am bethau y mae'n well ganddyn nhw eu cadw'n breifat; ond mae yna ffyrdd o’i gwneud hi’n haws cynnal y sgyrsiau hyn gyda'ch plentyn. Dechrau’r sgwrs Dewiswch amser a lle da. Ceisiwch ddewis amser da. Dewiswch adeg y gwyddoch na fydd neb yn tarfu arnoch chi ac mae'r ddau ohonoch chi'n mynd i deimlo'n gyfforddus a chael digon o amser – heb ei droi'n un 'sgyrsiau arbennig' hynny. Meddyliwch sut rydych chi'n mynd i gyflwyno'r pwnc. Gallech chi sôn am stori newyddion ddiweddar neu esbonio’n syml pam fyddech chi’n hoffi siarad gyda nhw am rywbeth. Ceisiwch fod yn glir. Dyw hi ddim yn syniad da cael sgwrs anodd os nad yw’ch plentyn yn deall mewn gwirionedd beth roeddech chi am ei drafod ar ddiwedd y sgwrs. Esboniwch pam eich bod yn poeni. Efallai bydd eich plentyn yn meddwl eich bod chi'n poeni heb reswm da, ond os byddwch chi'n esbonio pam mae rhywbeth yn eich poeni chi bydd yn deall pam eich bod chi eisiau siarad am y peth. Dywedwch wrth eich plentyn os yw'n rhywbeth rydych chi wedi sylwi arno yn ei ymddygiad neu efallai'n rhywbeth rydych chi wedi darllen amdano neu wedi gweld ei ffrindiau'n ei wneud. Helpwch eich plentyn i ddeall eich pryderon er mwyn i chi allu eu datrys nhw gyda'ch gilydd. Rhowch gyfle i’ch plentyn siarad. Mae'n anodd weithiau pan nad yw plentyn eisiau trafod teimladau. Bydd gofyn cwestiwn fel 'sut mae pethau'n mynd' a chofio rhoi amser i’ch plentyn ateb yn help. Mae'n demtasiwn dal ati i siarad er mwyn osgoi distawrwydd – ceisiwch beidio gwneud hynny. Dylech wrando mwy na siarad. Mae angen dau berson i gael sgwrs. Mae'n bwysig eich bod chi'n gwrando ar eich plentyn a'ch bod chi'n esbonio y byddech chi'n hoffi iddo wrando arnoch chi. Dyw siarad di-baid byth yn gweithio. Byddwch yn gariadus ac yn gefnogol. Gellir gwneud y sgyrsiau anoddaf yn haws os yw'ch plentyn yn deall eich bod chi’n poeni amdano a beth bynnag yw canlyniad y sgwrs y byddwch yn ei garu lawn cymaint. Os yw'ch plentyn yn dweud rhywbeth wrthych sy’n eich poeniCymerwch seibiant. Os yw'ch plentyn yn dweud pethau wrthych chi sy'n eich poeni chi mae'n bwysig iawn peidio â chynhyrfu a pheidio ymateb ar unwaith. Gadewch i’ch plentyn ddweud wrthych chi beth sy'n digwydd ac yna penderfynu gyda'ch gilydd sut rydych chi'n mynd i ddelio â’r sefyllfa. Gofynnwch am help gyda'ch gilydd. Os yw’ch plentyn yn dweud rhywbeth wrthych chi sy'n golygu y gallai fod mewn perygl rhaid i chi roi gwybod i'r sefydliadau perthnasol am hyn. Ceisiwch gytuno i wneud hyn gyda'i gilydd. Peidiwch â chymryd drosodd oni bai eich bod yn meddwl nad oes gennych chi ddewis arall. Gofynnwch am gymorth i chi'ch hun. Mae eich ffocws yn mynd i fod ar ofalu am eich plentyn, ond cofiwch ofalu amdanoch chi eich hun hefyd a chael cymorth gan eich teulu a'ch ffrindiau. Gallwch gael cyngor pellach gan Thinkuknow , Parent Zone a Parent Info, ac mae sefydliadau eraill a all eich helpu chi a’ch plentyn. Beth os nad yw'ch plentyn eisiau siarad?Os nad yw'ch plentyn eisiau siarad gyda chi, a’ch bod yn dal i boeni'n fawr peidiwch â rhoi'r gorau iddi. Rhowch gynnig arall arni rywbryd eto neu ddod o hyd i ffordd wahanol o ddechrau'r sgwrs. Byddwch yn amyneddgar a gwnewch yn siwr fod eich plentyn yn gwybod lle y gall fynd ei hun i gael cymorth gyda materion anodd. Efallai y byddwch chi eisiau siarad â'i athro i weld a yw'n rhannu eich pryderon – beth bynnag rydych chi'n ei benderfynu, gofalwch eich bod yn barod pan fydd eich plentyn yn penderfynu ei fod eisiau siarad â chi. |
The following advice has been produced by CEOP Education to help parents and carers talk to their child about a sensitive issue. Starting a conversation with your child about a sensitive issue or something you don’t usually talk about isn’t always easy, especially if this means you will be talking about things they prefer to keep private, but there are ways to make having these conversations with your child easier. Starting the conversation Find a good time and place. Try to choose a good moment. Pick an opportunity when you know you’re not going to be interrupted and you are both going to feel comfortable and have enough time – without turning it into one of those ‘special talks’ moments. Think about how you are going to introduce the subject. You could mention a recent news story or just explain why you would like to talk to them about something. Try to be clear. It’s no good having a difficult conversation if at the end of it they don’t really understand what you wanted to talk to them about. Explain to them why you are worried. Your child might think that you are getting worried for no good reason, but if you explain why something is troubling you they will understand why you want to talk to them. Tell them if it is something you’ve noticed in their behaviour or maybe something you have read about or seen their friends doing. Help them to understand your worries so that together you can work them out. Let them talk. It’s hard sometimes when a child doesn’t want to open up. Asking them a question like ‘how are things going’ and remembering to give them time to answer will help. It’s tempting to keep talking at them to fill the space – try not to. Listen more than you talk. A conversation has to have two people in it. It’s important you listen to them and that you explain you’d like them to listen to you. Talking at them is never going to work. Be loving and supportive. The most difficult conversations can be made easier if your child understands that you care about them and whatever the outcome you will love them just as much. If your child tells you something that worries you Take a break. If your child is telling you things that worry you it is really important to stay calm and not to react immediately. Let them tell you what’s going on and then decide together how you're going to deal with it. Get help together. If your child tells you something which means they could be in danger you must report this to the relevant organisations. Try to agree to do this together. Don't take over unless you think that is your only option. Get support for yourself. Your focus is going to be on looking after your child but remember to look after yourself as well and get support from your family and friends. You can get further advice from Thinkuknow , Parent Zone and Parent Info, and there are other organisations that can help you and your child. What if your child doesn’t want to talk?If your child doesn’t want to talk to you and you are still really worried don’t give up. Try again another time or find a different way to start the conversation. Be patient and make sure they know where they can go themselves for support on difficult issues. You might want to talk to their teacher to see if they share your concerns – whatever you decide be ready when your child decides they want to talk to you. |
Mae cyfrif X (trydar) yr NOS yn darparu adnoddau gwerth chweil i helpu teuluoedd cefnogi eu plant gyda materion ar lein. Dilynwch @natonlinesafety am wybodaeth pellach.
The NOS X (twitter) account provides worthwhile resources to help families support their children with online matters. Follow @natonlinesafety for further information.
The NOS X (twitter) account provides worthwhile resources to help families support their children with online matters. Follow @natonlinesafety for further information.
Os ydych chi angen cymorth neu'n poeni ymddygiad ar lein, gallwch siarad gyda'ch Pennaeth Cynnydd neu'r Swyddogion Diogelu Miss Rh James, Mr G Morris neu Mrs R Willams.
If you need advice or are worried about online behaviour, you can talk to your Progress Leader or Safeguarding Officers Miss Rh James, Mr G Morris or Mrs R Williams.
If you need advice or are worried about online behaviour, you can talk to your Progress Leader or Safeguarding Officers Miss Rh James, Mr G Morris or Mrs R Williams.