Beth yw manteision astudio annibynnol?
What are the advantages of independent study?
Adnoddau Defnyddiol
Useful Resources
Gall athrawon a dysgwyr mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru lawrlwytho a gosod yr offer diweddaraf gan Microsoft Office, gan gynnwys Word, Excel a PowerPoint yn ogystal â Minecraft: Education Edition yn rhad ac am ddim ar hyd at 15 o ddyfeisiadau – drwy Hwb.
Teachers and learners in maintained schools in Wales are able to download and install the latest Microsoft Office tools including Word, Excel and PowerPoint as well as Minecraft: Education Edition at no cost on up to 15 devices - through Hwb. |
|
|
Llythrennedd
Literacy
Matiau Iaith : Language Mats
Gallwch ymarfer eich gramadeg gydag adnoddau dwyieithog. Practise your grammar with bilingual resources. |
Tasgau Geirfa: Vocabulary Resources
Ehangwch ar eich dealltwriaeth o eirfa gyda'r ditectif geiriau. Extend your understanding of vocabulary with the vocabulary detectives. |
Tasgau Darllen : Reading Tasks
Gallwch ddatblygu eich sgiliau darllen gyda'r adnoddau rhyngweithiol yma. Develop your reading skills with these interactive online resources. |
Apiau
Apps
Sillafu
Help gyda gwella Sillafu Cymraeg. Help improving your Welsh spelling. |
Ap Sglein
Adnodd gloywi iaith i wella'ch cywirdeb iaith. Grammar resources to improve accuracy. |
Ap Cywirdeb Iaith
Adnodd gloywi iaith i wella'ch cywirdeb iaith. Grammar resources to improve accuracy. |
Ap Geiriaduron
Ap geiriadur er mwyn chwilio am eirfa. A dictionary app to check for Welsh vocabulary on the go. |
Ap Treiglo
Gwiriwch eich treigladau er mwyn gwella'ch cywirdeb iaith. Check your mutations to improve language accuracy. |
Rhifedd
Numeracy
Mathemateg.com
Adnoddau mathemateg a rhifedd gyda fideos i esbonio dulliau mathemategol sy'n addas ar gyfer dysgwyr 11-18 oed. Mathematics and Numeracy resources with videos that explain mathematical methods suitable for learners ages 11 to 18. |
Mathemateg Geirfa Termau: Mathematical Vocabulary and Terminology
Gallwch ddefnyddio'r wefan er mwyn chwilio am eirfa mathemategol a derbyn esboniad yn y Gymraeg neu'n Saesneg. Use this website to search for mathematical vocabulary and get an explanation in Welsh or English. |
Cywirdeb Iaith
Linguistic Accuracy
Wrthi’n dysgu neu wella dy Gymraeg? Wyt ti’n helpu dy blant gyda’u gwaith cartref? Neu jyst chwilio am dawelwch meddwl bod pob t c p wedi mynd yn d g b yn y llefydd iawn? Gall Cysgliad helpu. Ac mae ar gael yn rhad ac am ddim.
Awydd rhoi cynnig arni? Mae TRWYDDED RAD AC AM DDIM i Cysgliad ar gyfer unigolion, ysgolion a phawb sy’n cyflogi 10 o bobl neu lai ar gael gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Learning or improving your Welsh? Are your children in Welsh medium education? Do you help your children with their homework? Or are you just searching for peace of mind that every t c p has changed to d g b in the correct place? Cysgliad can help. And it’s available for free. Fancy trying it? Cysgliad’s FREE LICENSE for individuals, schools and organisations employing 10 people or less is now available with the support of the Welsh Government. |
CYSGEIR
Mae Cysgeir, sef rhan o becyn Cysgliad, yn gasgliad o eiriaduron defnyddiol a chynhwysfawr ar gyfer eich cyfrifiadur. Mae’n cynnwys geiriau cyffredinol yn ogystal â thermau arbenigol o’r geiriaduron terminoleg sydd wedi cael eu datblygu ym Mhrifysgol Bangor dros y blynyddoedd Fel geiriadur electronig, mae gan Cysgeir sawl mantais dros eiriaduron papur traddodiadol. Mae’n gyflym ac yn dod o hyd i air yn rhwydd. Teipiwch y gair rydych yn chwilio amdano yn y blwch chwilio a bydd y geiriadur yn dechrau chwilio amdano cyn i chi orffen teipio. Os nad ydych yn siŵr o’r sillafiad, gallwch deipio’r llythrennau cyntaf a defnyddio’r ffenestr chwilio ar y chwith i ddod o hyd iddo. Cysgeir is a comprehensive collection of useful dictionaries for your computer and forms part of the Cysgliad package. It contains general every-day words as well as specialized terminology taken from the terminology dictionaries developed at Bangor University over the years. As an electronic set of dictionaries, Cysgeir has numerous advantages over traditional paper dictionaries. With Cysgeir, finding a word is quick and easy – start typing the word that you’re looking for and the dictionary will start looking for it even before you’ve finished typing. If you’re unsure of the exact spelling, just typing in the first few letters will narrow down the possible words so that you can select the appropriate word from the search window on the left. |
Mae’r gwirydd sillafu Cysill yn adnabod gwallau teipio a chamsillafu, gan dynnu sylw atyn nhw a chynnig cywiriadau.
Mae’r gwirydd gramadeg yn gallu cywiro camdreiglo a chamgymeriadau gramadegol, gan roi’r rheswm pam mae’r gwall yn cael ei ystyried yn anghywir. Mae’r rhaglen yn gweithio gyda rhaglenni prosesu geiriau fel Microsoft Word a LibreOffice ar Windows drwy bwyso’r botwm Gwirio ar y bar offer. Cysill is a Welsh language spelling and grammar checker. Cysill can, in addition to correcting spelling and general grammatical errors, correct incorrect mutation and, when errors are found, inform the user why the error is considered to be incorrect. Cysill can be installed into popular word processing applications in Windows such as Microsoft Word and LibreOffice and accessed through convenient buttons on their toolbars. Cysill also includes a thesaurus which enables you to find different words that share a similar meaning, allowing you to improve your vocabulary and writing style. |
Sut i adolygu...
How to revise...
1. Byddwch yn drefnus
Anghofiwch wthio eich hun i adolygu am hanner nos – mae angen dechrau trefnu 'nawr. Drwy ddechrau 'nawr byddwch yn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o amser i ganolbwyntio, yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch chi, ac yn mynd dros yr holl wybodaeth berthnasol. Byddwch yn arbed llawer o amser gwerthfawr yn y tymor hir os ydych yn drefnus a bydd yn eich helpu chi i osgoi unrhyw straen munud olaf. Edrychwch ar eich deunyddiau cwrs yn gyntaf. Mae hyn yn cynnwys yr holl nodiadau a thaflenni gan eich athrawon, unrhyw lyfrau a ddefnyddiwyd yn y dosbarth, ac unrhyw adnoddau ychwanegol – casglwch y rhain at ei gilydd mewn un man. Gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o ddeunydd ysgrifennu, gan gynnwys:
Enwch y pwnc – mae popeth yno i chi. Gan gydweithio'n agos gydag athrawon ac arweinwyr pwnc mae CBAC wedi creu dewis heb ei ail o adnoddau digidol rhad ac am ddim i'ch helpu chi i adolygu, ac mae'r rhain i gyd ar gael yn rhad ac am ddim. 3. Penderfynwch ar eich arddull dysgu Mae pawb yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol, felly mae'n allweddol eich bod yn creu amserlen sy'n gweithio i chi er mwyn gallu adolygu'n effeithiol. Mae nifer o erthyglau gwych ar gael yn archwilio arddulliau dysgu gwahanol. Dyma enghraifft o gwis defnyddiol (ar gael yn Saesneg yn unig) i'ch ysgogi ar eich taith i ddarganfod eich arddull dysgu. Cymysgwch bethau! Arbrofwch gydag amrywiol dechnegau adolygu gwahanol. Os nad ydych yn rhoi cynnig ar rywbeth ni fyddwch yn gwybod beth sy'n gweithio orau i chi. 4. Cyn-bapurau – eich ffrind gorau o hyn ymlaen! Mae defnyddio cyn-bapurau yn rhywbeth y mae'n rhaid ei wneud wrth adolygu. Byddan nhw'n rhoi dealltwriaeth i chi o sut mae'r arholiad yn gweithio a'r math o gwestiynau i'w disgwyl. Maen nhw'n wych hefyd os ydych chi am roi cwis bach i chi eich hun. Ydych chi wedi edrych ar y Banc Cwestiynau? Mae'n rhad ac am ddim a gallwch ei ddefnyddio i ddewis a dethol cwestiynau o filoedd o gwestiynau arholiadau'r gorffennol. Darganfyddwch y cwestiynau sydd eu hangen arnoch chi, ychwanegwch nhw at eich papur ac yna allforiwch nhw gyda'r cynllun marcio perthnasol a sylwadau'r arholwr. Cofiwch wneud nodyn o unrhyw gwestiynau y cawsoch drafferth â nhw ac ewch nôl i ailedrych ar y testunau hyn yn eich sesiwn adolygu nesaf. 5. Gan bwyll y mae ei gwneud hi Drwy bwyllo a chymryd eich amser bydd gennych fwy o gymhelliant a gallwch ganolbwyntio am fwy o amser. Trefnwch eich adolygu'n sesiynau llai (tua 25-30 munud ar y tro) gydag egwyliau rheolaidd. Cofiwch, mae'n bwysig gwobrwyo eich hun gyda rhywfaint o "amser i chi eich hun". Gall hynny fod yn gymdeithasu gyda ffrindiau, yn chwarae ar eich consol gemau neu'n diweddaru eich cyfryngau cymdeithasol. Peidiwch ag anghofio ymlacio a gwneud amser i chi eich hun wrth astudio. Rhowch gymhelliant i chi eich hun, er enghraifft, mynd i'r sinema, neu goginio eich hoff bryd o fwyd ar ôl adolygu'n ddwys a diderfyn am gyfnod. 6. Ataliwch yr emoji Peidiwch â chael eich dymchwel gan eich ffôn symudol neu dabled – ewch â phopeth sy'n tynnu sylw i ffwrdd o'r man lle rydych yn astudio. Anwybyddwch unrhyw synau hysbysu a swigod teipio testun, byddan nhw'n dal i fod yno ar ôl eich sesiwn adolygu 30 munud o hyd. Ond os ydych chi'n ohiriwr proffesiynol a'r ffôn yn tynnu eich sylw o hyd, mae rhai apiau gwych i'w cael fydd yn helpu i ddileu'r temtasiwn yn llwyr. Er enghraifft, mae'r ap Cold Turkey (ar gael yn Saesneg yn unig) hwn yn atal dros dro yr holl gyfryngau cymdeithasol, gemau ac unrhyw apiau eraill sy'n tynnu sylw. 7. Llyncu digonedd o ddŵr i lwyddo? Yfwch ddigonedd o ddŵr a gwnewch yn siŵr eich bod wedi'ch hydradu! Dangosodd astudiaethau y gall yfed dim ond un gwydraid o ddŵr y dydd helpu i gynyddu eich lefelau cynhyrchedd ac egni. Beth am ddefnyddio ap rhad ac am ddim i'ch helpu i fonitro faint rydych yn ei yfed bob dydd? Un o sawl ap rhad ac am ddim sydd ar gael yw My Water Balance (ar gael yn Saesneg yn unig). 8. Peidiwch â chadw pethau i chi eich hun Mae poeni am arholiadau yn rhywbeth cwbl normal. Gall rhywfaint o bwysau fod yn gymhelliad gwych, gan eich helpu i weithio a meddwl yn fwy effeithiol. Ond, os ydych yn teimlo eich bod yn mynd i boeni am bopeth, mae'n bwysig siarad am y peth. Gall siarad â ffrind, athro neu aelod o'r teulu am eich teimladau fod yn ffordd wych o liniaru unrhyw bryderon sydd gennych. Dyma rai gwefannau llawn gwybodaeth a chyngor am ymdopi â phwysau arholiadau (ar gael yn Saesneg yn unig).Mae apiau i gefnogi llesiant yn dod yn llawer mwy poblogaidd hefyd. Er enghraifft, mae'r GIG wedi creu ap rhad ac am ddim o'r enw WellMind (ar gael yn Saesneg yn unig), yn benodol i helpu gyda gorbryder. 9. Byddwch yn bositif! Cofiwch y byddwch chi'n cael budd yn y tymor hir o aberthu yn y tymor byr. Meddyliwch am ba mor wych y byddwch chi'n teimlo ar ddiwedd eich holl arholiadau. Gallwch chi wedyn fwynhau gwyliau'r haf. Dechreuwch adolygu heddiw – byddwch chi'n ddiolchgar yn nes ymlaen. |
1. Get organised
Forget the midnight cramming sessions - the time to get organised is now. Starting now will ensure that you'll have plenty of time to focus, get the help you need, and go over all the relevant information. Being organised will save lots of valuable time in the long run and will help you to avoid last-minute stress. Start by going through your course materials, this includes all notes and handouts from your teachers, any books that were used in class, and any additional resources – collect them together in one place. Ensure that you are well stocked on stationery, including:
Name the subject – they've got you covered. Working closely with teachers and subject leaders, WJEC have prepared a wealth of free digital resources to help with your revision, and these are all available for free. 3. Know your learning style Everybody learns in different ways, so creating a timetable that works for you is the key to effective revision. There are a number of great articles exploring different learning styles. Here's an example of a helpful quiz to kick-start your learning style discovery. Shake it up! Experiment with an array of different revision techniques. You won't know what works best for you until you give it a try. 4. Past papers are your new best friend! Past papers are a revision must. They will give you an understanding of how the exam works and the type of questions to expect. They're also a brilliant way to quiz yourself. Have you checked out Question Bank? It's our free tool which allows you to mix and match questions from thousands of our past examination questions. Find the questions you need, add them to your paper and then export with the accompanying mark scheme and examiner's comments. Remember to take a note of the questions that you struggled with and revisit these topics in your next revision session. 5. Slow and steady wins the race Maintain motivation and concentration for longer by taking your time and pacing yourself. Organise your revision into small sessions (25-30 minute bursts) with regular breaks. Remember, it's important to reward yourself with some "me time". Whether that's socialising with friends, playing your game console, or updating your social media. Don't forget to relax and unwind around studying. Try giving yourself incentives, for example, go to the cinema, or cook your favourite meal after a strong uninterrupted revision session. 6. Immobilise that emoji Don't let your mobile phone or tablet be your downfall - remove all distractions from your study station. Ignore those notification bells and typing text bubbles, they'll still be there after your 30-minute revision spurt. However, if you're a pro procrastinator who just can't put the phone down, there are some great apps around that help remove the temptation entirely. For example, this Cold Turkey app temporarily blocks out social media, games, and any other apps that act as a distraction. 7. Thirsty for success? Drink lots of water and stay hydrated! Studies have shown that drinking just one glass of water a day can help boost your productivity and energy levels. Why not use a free app to help monitor your daily water intake? My Water Balance is just one of several free apps available. 8. Don't bottle it up Worrying about your exams is perfectly normal, a certain amount of pressure can be a great motivator, helping you to work and think more effectively. However, if your anxieties start building, it's important to talk it out. Speaking with a friend, teacher, or family member about how you're feeling is a great way to relieve anxieties. Here are some great websites packed with information and advice about coping with exam pressures:Apps to support wellbeing are becoming increasingly popular. For example, the NHS has created a free app called WellMind, designed to help with anxiety. 9. Stay positive! Remember that short term sacrifices will bring long term benefits. Just think of how amazing it will feel when all of your exams are over and you can enjoy the summer break. Start revising today - you'll thank yourself later! |
BBC Bitesize
Defnyddiwch BBC Bitesize i helpu gyda gwaith cartref, adolygu a dysgu. Dewch o hyd i fideos rhad ac am ddim, canllawiau cam-wrth-gam, gweithgareddau a chwisiau fesul lefel a phwnc.
Use BBC Bitesize to help with homework, revision and learning. Find free videos, step-by-step guides, activities and quizzes by level and subject.
Use BBC Bitesize to help with homework, revision and learning. Find free videos, step-by-step guides, activities and quizzes by level and subject.
Adnoddau TGAU Blwyddyn 10/11
Year 10 / 11 GCSE Resources
Gwasgwch ar y lluniau isod i gyrraedd adnoddau digidol CBAC.
Click on the pictures below to open the WJEC digital resources.
Click on the pictures below to open the WJEC digital resources.
e-sgol
Adnoddau digidol i gefnogi gydag adolygu TGAU, Uwch ac Uwch Gyfrannol.
Digital resources to support GCSE, As and A level Revision.
Digital resources to support GCSE, As and A level Revision.